Yr Aelodau a oedd yn bresennol oedd Paul Davies AS (Cadeirydd); Luke Fletcher AS; Vikki Howells AS; Sam Kurtz AS; Sarah Murphy AS.
Cyfarfu'r Aelodau â phennaeth a staff y Coleg a chawsant daith addysgiadol iawn, yn arbennig i ddysgu rhagor am yr ap Tywydd Tywi a phrosiect yr orsaf dywydd, am faetholion fferm, am drin slyri, a’r prosiectau trin dŵr gwastraff.
Yn ei adroddiad Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) 2021 argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i ystyried camau eraill yn lle’r cyfnodau agored a chaeedig ar gyfer taenu slyri, neu ‘ffermio ar sail calendr’, fel y nodir yn y Rheoliadau. Mae prosiect Tywydd Tywi yn gam amgen sydd wedi’i gyflwyno i’w ystyried gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd i ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor yn llawn erbyn 14 Medi, ac mae dadl yn y Cyfarfod Llawn wedi'i threfnu ar gyfer 21 Medi.
Clywodd yr Aelodau fod y system ‘goleuadau traffig’ yn yr ap eisoes wedi bod yn effeithiol o ran dangos amseroedd coch/’gwahardd’, i ffermwyr osgoi lledaenu slyri oherwydd tywydd anffafriol yn yr hyn a oedd yn dechnegol yn gyfnod agored, yn ogystal â nodi amseroedd gwyrdd/'caniatáu taenu' pan fo'n addas i daenu slyri yn ystod y cyfnod gwahardd taenu. Nododd yr Aelodau fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu gorsafoedd tywydd mewn pedwar dalgylch afon yn Ne Ddwyrain Cymru. Buont yn ystyried y costau bras ar gyfer cyflwyno a chynnal yr ateb hwn nad oedd yn rhy uchelgeisiol o ran technoleg, ac sy'n defnyddio ynni solar gyda batri wrth gefn, a'r manteision o ran rheoli costau gwrtaith.
Aeth yr Aelodau ar daith o amgylch yr ardal trin slyri, a nododd y gwerth uchel o ran maetholion a gwerth uchel iawn posibl y slyri wedi'i drin o ran ei allforio, a manteision dal carbon y prosiect amaethyddiaeth manwl hwn.
Edrychwyd hefyd ar y prosiect dŵr gwastraff/corslwyni, lle defnyddir pympiau awyru sy’n costio tua £1.50 y dydd i hidlo dŵr gwastraff i sicrhau ei fod o ansawdd gwell, i’w ddefnyddio ar gyfer glanhau’r fferm i arbed ar y defnydd o ddŵr turio, a chyda’r nod yn y pen draw o sicrhau cyflenwad o ddŵr o ansawdd sy'n addas fel dŵr yfed gwartheg. Cefnogir y prosiect hwn gan gyllid Llywodraeth Cymru tan ddiwedd mis Tachwedd.
Nododd yr Aelodau y pryderon a godwyd yn ystod yr ymweliad ynghylch trefniadau ariannu'r Gelli Aur yn y dyfodol, a'r cyfleoedd i ddatblygu'r prosiectau arferion ffermio cynaliadwy ymhellach – mae’r ddau hyn yn faterion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Dywedwyd wrth yr Aelodau am fanteision posibl gwaith datblygu yn y dyfodol y gellid ei wneud ar gyfer lleihau allyriadau amonia, a gwella ansawdd aer, a dewisiadau biomas ar gyfer slyri wedi'i dreulio. Nodwyd y gallai buddsoddiad cyfalaf mewn 'canolfannau' triniaeth fod o fudd i ffermydd llai yn ogystal â gweithrediadau llaeth mwy.
Nododd y Pwyllgor hefyd rôl bwysig y Coleg o ran hybu sgiliau iaith Gymraeg.
Capsiwn: Aelodau’r Pwyllgor yn cael eu briffio gan Neil Nicholas a chydweithwyr ar gampws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr, ar brosiect Tywydd Tywi.
Croesawyd yr Aelodau gan Simon Wright, sy’n berchennog bwyty, yn ddarlledwr ac yn hyrwyddwr cynhyrchu bwyd cynaliadwy a bwyd lleol. Cawsant eu cyflwyno i gynhyrchwyr bwyd a blaswyd amrywiaeth o gynhyrchion bwyd Cymreig rhagorol dros ginio gwaith. Gwerthfawrogodd yr Aelodau y cyfle i glywed gan Carwyn Graves, awdur llyfr newydd ar hanes bwyd Cymreig, sef Welsh Food Stories; Paul Oeppen o Lanrhath, sy’n ffermio cig oen organig arobryn a chig eidion o fridiau brodorol; a Nathan Richards, garddwriaethwr cynaliadwy sy'n ffermio yn Nhroed y Rhiw, sef fferm organig yng Ngheredigion. Trafodwyd dyfodol economaidd y diwydiant bwyd yng Nghymru a’r rhai a gyflogir yn y diwydiant, cyfeiriad y polisi bwyd yng Nghymru ac anghenion cynhyrchwyr, y chwedlau a’r gwirioneddau am fwyd a ffermio Cymru, a manteision maeth da i iechyd y cyhoedd.
Caption: Yr Aelodau'n trafod dyfodol bwyd a ffermio yng Nghymru yn Emporiwm Bwyd Wright's: O’r chwith i’r dde: Paul Davies AS, Sam Kurtz AS, Sarah Murphy AS, Simon Wright; Luke Fletcher AS; Nathan Richards; Paul Oeppen, Vicki Howells AS.
Cyfarfu'r Aelodau â pherchennog y fferm Hywel Morgan ynghyd â Rhys Evans, ffermwr o Ogledd Cymru sy’n Arweinydd Ffermio Cynaliadwy ar gyfer y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur (NFFN) yng Nghymru. Rhoddodd Hywel Morgan daith i’r Aelodau o amgylch ei fferm ddefaid a chig eidion, lle mae wedi newid o rai arferion ffermio confensiynol ac wedi mabwysiadu dull y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur. Eglurodd ei ddull o reoli gwrychoedd (gan gynnwys perthi lletach, talach); rheoli pridd a glaswelltir ac iechyd anifeiliaid; archwiliadau o ran bioamrywiaeth; rheoli dŵr a chreu pwll/ardaloedd gwlyptir; a bêlio brwyn ar gyfer gwely anifeiliaid. Mae’r fferm hefyd yn ddiweddar wedi cyflwyno treial o goleri tracio ar gyfer gwartheg sy’n pori’n rhydd ar yr ucheldir fel nad oes angen ffensys..
Dywedodd Hywel Morgan y gallai gymryd 3-5 mlynedd i drawsnewid o borfa rhygwellt, a soniodd am y gwrtaith cynyddol a fyddai ei angen ar gyfer hyn. Ond dywedodd fod newid i borfa gymysg sy’n cynnwys perlysiau naturiol a meillion nid yn unig wedi gwella hyfywedd y pridd (oherwydd hyd amrywiol y gwreiddiau), ond hefyd wedi dileu costau uchel o ran gwrtaith, ac wedi arwain at filiau milfeddygol is oherwydd gwell iechyd anifeiliaid. Dywedodd fod gwartheg yn lloia'n fwy naturiol a rhwydd heb fod angen cymaint o ymyrraeth gan y ffermwr a'r milfeddyg. Adroddodd hefyd am fwy o fioamrywiaeth gan gynnwys adar fel y gylfinir. Dywedodd Hywel Morgan ei fod wedi wynebu llawer o amheuaeth gan y rhai o'i gwmpas am newid i arferion ffermio y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur, ond nad oedd yn difaru. Dywedodd ei fod 'y peth cywir i’w wneud ym mhob ystyr' wrth ystyried beth yw pwrpas tir Cymru a phwy a ddylai gael budd ohono. Roedd yn gwerthfawrogi'r cyngor a'r gefnogaeth a gafodd yn wythnosol gan yr NFFN. Mae Hywel Morgan hefyd wedi bod yn rhan o raglen cyfnewid rheolaeth Cyswllt Ffermio.
Galwodd Hywel Morgan ar Lywodraeth Cymru i wthio am ddatblygu marchnad gynaliadwy ar gyfer gwlân o Gymru. Mae diffyg cyfleusterau trin gwlân yn agos at y DU yn gwneud y farchnad yn amhroffidiol, ac effeithiodd Covid-19 ar y galw am wlân, er enghraifft ar gyfer carpedi ar gyfer llongau mordaith. Ond tynnodd sylw at y potensial i chwyddo’r farchnad ar gyfer gwlân Cymru, sy’n gynnyrch naturiol cynaliadwy gyda threftadaeth Gymreig gref a llawer o ddefnyddiau modern.
Caption: Yr Aelodau yn ymweld â fferm Esgairllaethdy: O’r chwith i’r dde: Sarah Murphy AS, Vikki Howells AS, Luke Fletcher AS, Paul Davies AS (Cadeirydd y Pwyllgor), Rhys Evans, Hywel Morgan a Roxy, a Sam Kurtz AS.
Roedd cefnogaeth i rôl Cyswllt Ffermio wrth ddarparu cyngor ffermio, ond codwyd pryderon cyffredin yn ystod y dydd am ddiwylliant a gweithrediad system Taliadau Gwledig Cymru ar-lein ar gyfer gwneud cais am gymorth ariannol. Roedd peidio â chael pobl i drafod problemau â nhw yn broblem i ffermwyr a oedd yn ceisio cael gafael ar arian. Mae ffermwyr yn gwbl amharod i wneud cais am rai grantiau - yn enwedig y Grant Busnes i Ffermydd. Mae hyn oherwydd yr amser a gymerir i brosesu taliadau, ansicrwydd ynghylch cymhwysedd a dim cyngor dynol ar gael cyn cyflwyno ceisiadau, a’r risg gwirioneddol o golli buddsoddiad cyfalaf. Dywedodd ffermwyr eu bod wedi colli miloedd o bunnoedd oherwydd problemau gyda'r system fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd.
Codwyd hefyd y mater o ddiffiniad o “ffermwr actif” a'u mynediad at gyllid yn y dyfodol. Mae’r ffaith y gall perchnogion tir amaethyddol yng Nghymru sy'n byw y tu allan i Gymru ac nad oes ganddynt fawr ddim ymwneud â rheoli eu tir er budd y cyhoedd gyrraedd y trothwy o ran bod yn 'ffermwr actif' sy'n gymwys am arian cyhoeddus yn fater y dylid ei adolygu.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl faterion a godwyd yn ystod ei ymweliadau, gan gynnwys wrth graffu ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy drafft, a’r cynigion deddfwriaethol ar gyfer cymorth i amaethyddiaeth yn y dyfodol.
Mae'r Pwyllgor yn ddiolchgar i bawb a hwylusodd yr ymweliad hwn. Mae’r Aelodau’n bwriadu cwrdd â rhagor o randdeiliaid materion gwledig yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, a mynd ar ragor o ymweliadau â ffermydd yn nhymor yr hydref i lywio eu briff ar yr economi, masnach a materion gwledig.
---